Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2017
Amser:
09.01 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4370
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Tim Deere-Jones, Deisebydd Peter Bryant, EDF Energy Chris Fayers, EDF Energy Stephen Roast, EDF Energy |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Claire O'Sullivan (Cynghorydd Cyfreithiol) Wendy Dodds (Ysgrifenyddiaeth) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd ac i ofyn ei farn ar y materion a ganlyn:
· p'un a ddylid ychwanegu gwrthiselyddion at y rhestr o gyffuriau a dargedir i'w lleihau gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru; ac
· a ddylai cleifion ledled Cymru gael mynediad at Wasanaeth Cymorth Meddyginiaethau Rhagnodedig.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i:
· geisio cadarnhad y bydd trefniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid, yn rhan o'r adolygiad o ymestyn hawliau a'r ymgynghoriad cyhoeddus yn 2018; a
· gofyn am gymhariaeth o faint o arian a ddyrennir i bob awdurdod lleol ar gyfer gwaith ieuenctid drwy'r Asesiad Gwariant Safonol a faint o arian y mae pob awdurdod yn ei wario ar waith ieuenctid.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am:
· gopi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i lythyr manwl gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth Cymru; a
· chanfyddiadau'r adolygiad o Fagloriaeth Cymru sy'n cael ei gynnal gan Gymwysterau Cymru;
cyn ystyried cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ofyn eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb i lywio trafodaethau'r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i rannu'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a cheisio barn y Gweinidog ar y materion hyn, yn ogystal â gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion y Gweithgor Cysgu ar y Stryd pan fyddant ar gael.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Deere-Jones, y deisebydd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr EDF Energy.
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau blaenorol, gan gytuno i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo modd yn y flwyddyn newydd.